Mae’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH) yn sefydliad ymchwil o’r radd flaenaf sy’n canolbwyntio ar ecosystemau’r tir a dŵr croyw a’r ffordd y maent yn rhyngweithio â’r atmosffer.
Beth ydym yn ei wneud?
Yn unigryw, mae’r CEH yn integreiddio systemau arsylwi'r DU ac ymchwil sy’n cael ei llywio gan chwilfrydedd, o amrywiaeth genetig ar y raddfa leiaf i systemau’r Ddaear gyfan ar raddfa fawr. Rydym yn gweithio ar draws disgyblaethau ac yn hwyluso partneriaethau'r sector academaidd, cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Mae monitro, dadansoddi a modelu hirdymor, cynhwysfawr y CEH yn cyflenwi data amgylcheddol y DU a byd-eang, gan roi rhybuddion cynnar o newid ac atebion rheoli ar gyfer ein tir a’n dyfroedd croyw.
Pam ydyn ni’n gwneud hyn?
Mae ein hiechyd, ein diogelwch a’n datblygiad cymdeithasol yn dibynnu ar sicrhau gwerth natur, datblygu cadernid tuag at beryglon amgylcheddol a rheoli newid amgylcheddol. Mae’r heriau cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol hyn yn llywio ein hymchwil. Mae gwyddoniaeth annibynnol, ddiduedd CEH yn tanategu polisïau ac arloesi amgylcheddol rhyngwladol a’r DU yn y sector masnachol ar gyfer twf economaidd cynaliadwy.
Ble’r ydyn ni’n gwneud hyn?
Rydym yn cynnal ein hymchwil ar draws y byd. Gyda’n prif safleoedd yn y DU a phartneriaid ledled Ewrop a gweddill y byd, rydym mewn sefyllfa dda i gydweithredu â llywodraethau, cyrff, busnesau a chyrff anllywodraethol rhyngwladol.