Mae Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU yn ganolfan ymchwil annibynnol nid-er-elw, sy’n gwneud gwaith gwyddonol amgylcheddol rhagorol ym maes dŵr, tir ac aer.

Mae bodau dynol yn dibynnu ar fyd natur ac maent yn newid byd natur. Yng Nghanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU, rydym yn ceisio deall yr amgylchedd, sut mae’n cynnal bywyd, a beth yw effaith bodau dynol arno – a hynny er mwyn i bobl a byd natur ffynnu gyda’i gilydd.

Mae gennym hanes hir o ymchwilio, monitro a modelu newid amgylcheddol. Mae ein 500 o wyddonwyr yn darparu'r data a’r dealltwriaeth sydd eu hangen ar lywodraethau, busnesau ac ymchwilwyr er mwyn creu amgylchedd cynhyrchiol, gwydn ac iach.  Mae chwilfrydedd gwyddonol, uniondeb a thryloywder yn ganolog i’n ffordd ni o weithio.

Credwn bod yr atebion gorau yn dod drwy eu cyd-ddylunio a’u cyd-ddarparu, ac mae ein partneriaethau’n croesi ffiniau, sectorau a disgyblaethau.

Ein rhagoriaeth ymchwil

94%

o'n papurau ymchwil wedi cael eu crybwyll

28.95

o grybwlliadau ymhob dogfen

1af

yn y DU am fioamrywiaeth a chadwraeth

1af

yn y DU am adnoddau dŵr

Ein dylanwad

Mae ein gwyddoniaeth yn gwneud gwahaniaeth, mae’n sail i bolisïau amgylcheddol, i arloesedd masnachol ac i gamau cadwraeth ledled y byd. Er enghraifft:

  • Mae ein gwaith monitro a modelu rhywogaethau yn cyfrannu at bolisïau Prydeinig, Ewropeaidd a rhyngwladol ar fioamrywiaeth, gan helpu i ragweld ac atal rhywogaethau goresgynnol rhag lledaenu.
  • Drwy ein gwaith ar lygredd aer, rydym yn cynorthwyo swyddogion polisïau ac asiantaethau amgylcheddol ledled y byd i ddatblygu strategaethau aer glân;
  • Mae ein gwaith monitro a modelu adnoddau dŵr yn galluogi llywodraethau, busnesau a chymunedau ledled y byd i gynllunio ar gyfer y dyfodol;
  • Mae ein hymchwil ar risgiau hydro-hinsawdd yn gwella dulliau rhagweld a gwydnwch rhag tywydd eithafol, llifogydd a sychder.;
  • Mae ein gwaith gwyddonol ar bridd a defnydd tir yn atal ac yn gwrthdroi dirywiad tir, ac mae’n cyfrannu at safonau rhyngwladol ar gyfer rhestrau nwyon tŷ gwydr;
  • Mae ein hastudiaethau maes ar gyfer amaethyddiaeth yn gymorth i ffermwyr ddefnyddio’r dulliau gorau i gynhyrchu bwyd tra’n diogelu pryfed peillio.