Available translations: English

17.11.2021

17.11.2021

Mae’r arolwg mwyaf o gyflenwadau pryfed peillio yng Nghymru wedi canfod bod creu coetiroedd a gwrychoedd yn gallu chwarae rhan hollbwysig mewn gweithredu i wrthdroi’r dirywiad mewn pryfed sy’n hanfodol ar gyfer cynhyrchu cnydau a bywyd gwyllt arall.

Hyd yma, mae’n syndod bod cyn lleied o ddata gwyddonol am bryfed peillio yng Nghymru o’i gymharu â gweddill y DU. Fodd bynnag, mae astudiaeth newydd bwysig o gannoedd o wahanol safleoedd wedi datgelu’r mathau o gynefinoedd lle mae pryfed hofran, gloÿnnod byw a gwenyn sy’n peillio yn fwyaf toreithiog.

Cynhaliwyd yr arolwg ar raddfa fawr gan Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (UKCEH) ac elusen Gwarchod Gloÿnnod Byw Cymru, ar y cyd â Llywodraeth Cymru a dros 1,000 o dirfeddianwyr ledled y wlad. Mae’r canfyddiadau’n dangos y gallai creu coetiroedd a gwrychoedd sy’n cael eu rheoli’n ofalus chwarae rhan allweddol mewn cynlluniau cymhelliant rheoli tir, ochr yn ochr â chamau eraill fel adfer dolydd blodau gwyllt a ffermio organig gyda chnydau sy’n blodeuo’n doreithiog.

Canfu’r ymchwilwyr – a fu’n arolygu 300 sgwâr o dir ledled Cymru yn mesur 1km x 1km – hyd at ddwywaith gynifer o bryfed mewn ardaloedd coetir llydanddail ag mewn glaswelltir ffermio dwys. Fe wnaethant amcangyfrif hefyd y gallai cyflenwad y pryfed peillio ar dir fferm, heb wrychoedd, ostwng hyd at 21 y cant.

Y rheswm dros hyn yw bod gwrychoedd a choetir llydanddail, sy’n cynnwys coed fel coed derw a choed masarn yn ogystal â llwyni blodeuol, yn darparu cynefinoedd amrywiol i bryfed peillio. Mae llawer o rywogaethau planhigion coediog yn darparu bwyd ar gyfer larfa, yn ogystal â phaill a neithdar ar gyfer pryfed llawn dwf. Mae gwrychoedd a choetiroedd hefyd yn darparu safleoedd nythu a lloches ddiogel i lawer o rywogaethau.

Ar hyn o bryd, dim ond 15 y cant o’r gorchudd tir yng Nghymru sy’n goetir, ac mae tua thri chwarter ohono’n laswelltir, a fawr iawn y mae’n cyfrannu at gefnogi bioamrywiaeth oherwydd ei fod yn cael ei ffermio’n ddwys. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu plannu 180,000 hectar o goetir newydd erbyn 2050 fel rhan o’i chynllun Cymru Sero Net.

Dywed Dr Jamie Alison o UKCEH, a arweiniodd yr astudiaeth newydd o bryfed peillio yng Nghymru: “Mae creu coetiroedd, os ydynt wedi’u cynllunio’n briodol, yn allweddol i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd drwy ddal a storio llawer iawn o garbon. Fodd bynnag, mae llawer o fanteision eraill i hyn hefyd, gan gynnwys ar gyfer bioamrywiaeth pryfed.

“Nid yw gwerth coetiroedd o ran cefnogi pryfed peillio yn cael ei gydnabod yn eang, ond yn ein barn ni, gallai fod yn arbennig o bwysig mewn gwledydd fel Cymru sy’n cael eu dominyddu gan laswelltiroedd ffermio dwys lle mae’r rhywogaethau blodeuol i gynnal y pryfed hyn yn brin iawn.”

Fodd bynnag, nododd Dr Alison ei bod hi’n bwysig cael cydbwysedd gofalus o gynefinoedd gwahanol ar draws tirwedd, er mwyn darparu nodweddion ategol sy’n cynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt.

Dywed: “Nid coetir yw’r ateb i bopeth. Mae dolydd blodau gwyllt, cynefinoedd glaswelltir llai dwys a chnydau blodeuol hefyd yn chwarae eu rhan i gefnogi pryfed, tra bo’r math o orchudd coed yn hanfodol. Nid yw planhigfeydd coed, er enghraifft, o fudd i bryfed peillio, sy’n ffynnu ar ymylon ac ym mylchau coetiroedd naturiol gydag amrywiaeth o rywogaethau planhigion blodeuol.”

Canfu’r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y Journal of Applied Ecology, fod cynefinoedd gyda mwy o flodau yn cynnal niferoedd uwch o dros 50 o rywogaethau pryfed peillio yn yr arolwg. Fodd bynnag, roedd gwenyn mêl – sy’n chwilotwyr effeithiol iawn – yn tueddu i ddominyddu dros rywogaethau eraill mewn ardaloedd sydd â’r gorchudd mwyaf o flodau.

Mae sylw’r cyhoedd yn canolbwyntio’n bennaf ar wenyn mêl a reolir, sy’n cael eu magu am eu gwerth economaidd. “Er eu bod yn bryfed peillio effeithiol, dim ond un rhywogaeth yw gwenyn mêl”, medd Dr Alison. “Un o ganfyddiadau allweddol ein hastudiaeth yw bod angen dulliau gwahanol i fod o fudd i bryfed peillio ‘gwyllt’ - gan gynnwys rhywogaethau gwenyn eraill, pryfed hofran, gloÿnnod byw a gwyfynod - nad ydynt yn cael eu rheoli gan bobl.”

Mae tua thraean o’r bwyd a gynhyrchir yn fyd-eang yn dibynnu ar bryfed peillio – pryfed yn bennaf – sy’n hanfodol i gynnal poblogaethau o anifeiliaid eraill yn ogystal â phlanhigion, ond mae llawer o’r rhywogaethau pryfed hyn yn dirywio yn y DU ac yn fyd-eang. Yn ôl awduron yr astudiaeth, mae angen i bolisïau a systemau cymhorthdal ffermio yn y dyfodol ystyried creu coetiroedd a gwrychoedd mewn ardaloedd lle nad oes llawer o orchudd blodeuol ar hyn o bryd er mwyn gwrthdroi dirywiad pryfed peillio yn fyd-eang.

Diolchodd yr ymchwilwyr i’r nifer fawr o ffermwyr a rheolwyr tir a roddodd ganiatâd i astudiaethau gael eu cynnal ar eu tir.

Dywed Dr George Tordoff o’r elusen Gwarchod Gloÿnnod Byw, a gydlynodd yr arolygon pryfed peillio, “Mae’r ymdrech enfawr a chydweithredol hon i arolygu cefn gwlad Cymru wedi rhoi gwell dealltwriaeth i ni o iechyd poblogaethau pryfed peillio, a sut mae hyn yn berthnasol i wahanol gynefinoedd, gorchudd blodau a hyd y gwrychoedd yn y dirwedd gyfagos.”

-Diwedd-

Nodiadau i olygyddion
Alison et al. 2021. Woodland, cropland and hedgerows promote pollinator abundance in intensive grassland landscapes, with saturating benefits of flower cover. Journal of Applied Ecology. Dyddiad cyhoeddi: 10.1111/1365-2664.14058

Cefnogwyd yr ymchwil ar gyfer yr astudiaeth gan Raglen Monitro a Modelu Amgylchedd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru (ERAMMP) a Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir (GMEP). Fe’i cefnogwyd hefyd gan gyllid y rhaglenni Gallu Cenedlaethol a ddarparwyd gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI).

 

Ymholiadau gan y cyfryngau
Ar gyfer cyfweliadau a rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Simon Williams, Swyddog Cysylltiadau’r Cyfryngau yn UKCEH, ar simwil@ceh.ac.uk neu +44 (0)7920 295384. Mae’r papur a’r delweddau, gan gynnwys y graffigwaith, ar gais.

Gwybodaeth am Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (UKCEH)
Mae Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer gwyddorau amgylcheddol ym maes dŵr, tir ac aer. Mae dros 500 o wyddonwyr yn gweithio i ddeall yr amgylchedd, sut mae’n cynnal bywyd, a beth yw effaith bodau dynol arno – a hynny er mwyn i bobl a byd natur ffynnu gyda’i gilydd.

Mae gennym hanes hir o ymchwilio, monitro a modelu newid amgylcheddol, ac mae ein gwyddoniaeth yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y byd. Dyma’r materion y mae ein gwaith gwyddonol yn delio â nhw: llygredd aer, bioamrywiaeth, bioddiogelwch, risgiau cemegol, tywydd eithafol, sychder, llifogydd, allyriadau nwyon tŷ gwydr, defnydd tir, iechyd pridd, amaethu cynaliadwy, ecosystemau cynaliadwy, defnydd o facrofaethynnau cynaliadwy a rheoli adnoddau dŵr.

Mae Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU yn bartner cyflawni strategol i Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, sef rhan o UKRI. 
ww.ceh.ac.uk / Twitter: @UK_CEH / LinkedIn: Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU

Gwybodaeth am yr elusen Gwarchod Gloÿnnod Byw
Mae Gwarchod Gloÿnnod Byw yn elusen yn y DU sydd wedi ymroi i achub gloÿnnod byw, gwyfynod a’n hamgylchedd.  Mae ein hymchwil yn rhoi cyngor ar sut i warchod ac adfer cynefinoedd. Rydym yn cynnal prosiectau i warchod dros 100 o rywogaethau dan fygythiad ac rydym yn ymwneud â gwarchod cannoedd o safleoedd a gwarchodfeydd. 
www.butterfly-conservation.org / @savebutterflies