Available translations: English

30.05.2023

30.05.2023

Mae gwyddonwyr yng Nghanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (UKCEH) yn treialu dull arloesol o liniaru’r newid yn yr hinsawdd a rhoi hwb i gynnyrch cnydau yng Nghanolbarth Cymru. Mae posibilrwydd y gallai ychwanegu llwch creigiau sydd wedi’u malu’n fân waredu a dal symiau mawr o garbon deuocsid o’r atmosffer.

Yn y treial cyntaf o’i fath yn y byd ar Hindreulio Creigiau Datblygedig mewn ardaloedd o laswelltir ucheldir, mae gwyddonwyr UKCEH wedi ychwanegu 56 tunnell o graig basalt wedi ei falu’n fân o chwareli i dri hectar o dir fferm ym , Powys, y mis hwn a byddant yn ailadrodd hyn yr un amser y flwyddyn nesaf.

Mae’r gronynnau llwch craig basalt, sy’n llai na 2mm o faint, yn amsugno ac yn storio carbon yn gyflymach nag sy’n digwydd wrth i’r creigiau sy’n digwydd yn naturiol ar y safleoedd chwalu, neu hindreulio, gan leihau’r amserlen o ddegawdau i fisoedd yn unig (gweler y Nodiadau).

Fel rhan o’r prosiect, mae treialon tebyg yn cael eu cynnal hefyd mewn ardaloedd o laswelltir tir isel yn North Wyke, Dyfnaint, a thir cnwd âr yn Harpenden, sy’n gaeau y mae Rothamsted Research yn berchen arnynt, fel rhan o astudiaeth ehangach yn y DU sy’n cael ei hariannu gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI).

Mae’r prosiect hwn yn cael ei arwain gan David Beerling o Brifysgol Sheffield, sy’n amcangyfrif y gallai Hindreulio Creigiau Datblygedig ddileu hyd at ddwy filiwn o dunelli o CO2 y flwyddyn o’r atmosffer yn fyd-eang erbyn 2050.  Byddai hyn yn cynnwys hyd at 30 miliwn o dunelli yn y DU - tua 30 y cant o’r targedau dileu nwyon tŷ gwydr* fel rhan o’r cynlluniau sero net cenedlaethol.

Er bod astudiaethau eraill o amgylch y byd yn awgrymu y gallai Hindreulio Creigiau Datblygedig fod yn effeithiol iawn ar gyfer dileu nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer, ni chynhaliwyd unrhyw dreialon ar raddfa fawr yn y DU ac ar ein defnydd penodol ni o dir a’n systemau pridd.

Yn ôl yr Athro Bridget Emmett, Pennaeth Priddoedd a’r Defnydd o Dir yn UKCEH:  “Mae Hindreulio Creigiau Datblygedig yn cynnig nifer o fanteision posibl. Gallai llwch creigiau chwarae rhan allweddol wrth gyflawni targedau sero net a Chytundeb Paris. Yn y cyfamser, gall y newidiadau cemegol dilynol yn y pridd helpu i gynhyrchu cnydau a glaswellt. 

"Yn hollbwysig, mae’r prosiect yn cynnwys asesiad system gyfan o allyriadau sy’n gysylltiedig â chyflenwi a chludo’r llwch craig o chwareli o amgylch y DU, i nodi’r effeithiau amgylcheddol anfwriadol posibl megis newidiadau mewn bioamrywiaeth dŵr croyw.”

Dywedodd Dr Alan Radbourne o UKCEH, sy’n rheoli treialon Pumlumon: “Rydym yn gobeithio gallu deall mwy am raddfa a manteision posibl y dechnoleg hon yn y byd go iawn.  Fodd bynnag, mae maint yr argyfwng hinsawdd yn golygu y bydd ond yn rhan o’r cymysgedd eang o ddatrysiadau sy’n seiliedig ar natur a rhai wedi’u dyfeisio a fydd yn angenrheidiol er mwyn cyflymu’r broses o waredu nwyon tŷ gwydr. Mae hefyd yn bwysig cofio bod angen i ni leihau ein hallyriadau’n sylweddol yn y man cychwyn.”

Mae UKCEH, sydd wedi bod yn ymchwilio i brosesau ymchwil biodaeargemegol a hydrolegol yn nalgylch Pumlumon ers y 1960au, wedi sefydlu siambrau fflwcs nwyon tŷ gwydr ar y caeau i fesur faint o garbon deuocsid a nwyon tŷ gwydr eraill sy’n cael eu dal o’r atmosffer. Bydd ein gwyddonwyr hefyd yn monitro’r swm o garbon sy’n cael ei storio yn y pridd ac sy’n cael ei drosglwyddo i’r afon, yn ogystal ag effeithiau eraill ar fioamrywiaeth, cynhyrchu glaswellt ac ansawdd cyffredinol y dŵr.

Mae camerâu treigl amser yn cael eu defnyddio i fonitro patrymau pori defaid yn y dalgylch i weld a fydd unrhyw newidiadau i ansawdd y borfa yn denu mwy o ddefaid i’r ardal.

I gael manylion pellach am dreialon Pumlumon, ewch i dudalen prosiect UKCEH.

Diwedd

Ymholiadau’r cyfryngau 

Mae ffotograffau a fideo o’r llwch creigiau yn cael ei wasgaru ym Mhumlumon ar gael mewn ffolder dropbox. Ar gyfer cyfweliadau a gwybodaeth bellach, cysylltwch â Simon Williams, Swyddog Cyswllt y Wasg, drwy simwil@ceh.ac.uk neu ffonio 07920 295384.

Nodiadau i Olygyddion

Mae prosiect arddangosydd Hindreulio Creigiau Datblygedig yn cynnwys partneriaid megis Prifysgol Sheffield, UKCEH, Rothamsted Research a’r Ganolfan  Eigioneg Genedlaethol. Mae’n rhan o raglen CO2RE GGR, hwb ymchwil cenedlaethol aml-ganolfan, amlddisgyblaeth ar Ddileu Nwy Tŷ Gwydr (GGR) sy’n cael ei ariannu gan UKRI drwy’r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC).

Mae yna ddwy ffordd bosibl storio’r carbon sy’n cael ei ddal gan y creigiau mâl.  Mae’r ddwy yn dechrau gyda’r CO2 mewn dŵr glaw yn adweithio â’r elfennau cemegol yn llwch y creigiau i greu cyfansoddion hydawdd yn y pridd o’r enw carbonadau.  Yn ddibynnol ar hydroleg leol a nodweddion y pridd, bydd y carbonadau naill ai’n ffurfio mwynau llawn carbon a chael eu storio yn y pridd ei hun neu’n cael eu cludo drwy’r dyfroedd draenio a’r afonydd cyn cael eu dyddodi a’u storio yn y pen draw yng ngwaddodion y môr.  Yr enw cyffredin ar y broses o greigiau yn torri i lawr sy’n arwain at greu, cludo a storio carbonadau yw hindreulio pridd.

Mae hindreulio naturiol yn broses araf yng Nghymru am nad yw ein creigiau yn cynnwys y mwynau sydd fwyaf effeithiol ar gyfer dal carbon.  Gallai ychwanegu llwch creigiau basalt wella’r broses naturiol araf hon.

*Yn Chweched Llwybr Sero Net ei Chweched Gyllideb Garbon, fe amcangyfrifodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd y byddai angen dileu cyfanswm o 97 miliwn tunnell o CO2 y flwyddyn, drwy ddatrysiadau sy’n seiliedig ar y tir a rhai wedi’u dyfeisio, erbyn 2050 fel rhan o darged sero net y DU.  Fel rhan o adroddiad gan Element Energy ac UKCEH, a gomisiynwyd gan BEIS, cynhyrchwyd ystod o gyfuniadau o ddulliau GGR a allai ddileu 110 miliwn tunnell y flwyddyn.

Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (UKCEH)

Mae Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU yn ganolfan sy’n arwain y byd ar ragoriaeth mewn gwyddorau amgylcheddol ar draws dŵr, tir a’r awyr.  Mae gan y Ganolfan hanes hir o ymchwilio, monitro a modelu newidiadau amgylcheddol.  Mae ei 600 o wyddonwyr yn darparu’r data a’r mewnwelediadau sydd eu hangen ar ymchwilwyr, llywodraethau a busnesau i greu amgylchedd cynhyrchiol, gwydn ac iach. 

Mae UKCEH yn cynnal arolygon cenedlaethol hirdymor o amgylcheddau naturiol a rhai wedi’u rheoli, gan ganolbwyntio ar garbon deuocsid, methan ac ocsid nitraidd.  Rydym yn gwneud cyfranogiad sylweddol i stocrestrau allyriadau nwyon tŷ gwydr cenedlaethol y DU ac yn rhyngwladol, ac rydym yn gwella’r ddealltwriaeth o rôl y defnydd o dir ar allyriadau.  Rydym yn cyfrannu at ddatblygiad codau carbon mewndir a morfeydd heli – safonau ardystio gwirfoddol, sy’n galluogi i garbon mewndiroedd a morfeydd heli gael ei farchnata a’i brynu gan fuddsoddwyr preifat – gan ddarparu ffrwd incwm ar gyfer cyflawni’r nodau sero net cenedlaethol.

Mae Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU yn bartner cyflenwi strategol i’r Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU.

www.ceh.ac.uk / @UK_CEH /  LinkedIn: Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU